Project Manager – VCS Co-ordination / Rheolwr Prosiect At British Red Cross

Job Description: Project Manager – VCS Co-ordination Location: Flexible within Wales (hybrid role working between home and office) Contract Type: Fixed…

Job Description:

Project Manager – VCS Co-ordination
Location: Flexible within Wales (hybrid role working between home and office)
Contract Type: Fixed term contract / Secondment until 31st March 2022
Hours per week: 35
Salary: £39,626 per annum (pro rata)
Are you an experienced Project Manager, ideally with a background in the voluntary and community sector?
About this opportunity…

As Project Manager you will lead projects and / or workstreams within strategically significant programmes. Projects will be executed on time, to budget and to specification agreed – and to realise change across the organisation.
You will be working on a specific project to review the co-ordination of the voluntary and community sector (VCS), including its relationship with statutory and private sectors, at times of emergency . The project will consider existing structures within Wales and across the UK, to develop a framework for the future that enables improved co-ordination of the VCS when responding to crisis. A fuller outline of the project’s aims are contained within the Project Brief document
In this role you will be expected to operate at all levels across the organisation. You will rapidly become subject experts in the areas in which you are working and will be required to manage relationships with senior managers (usually “Head of” and Director level, but up to and including Executive Director).
You will be required to ensure that projects/ workstreams are delivered to time, quality and cost expectations and project tools, templates and reports are produced on time, error free, and to enable effective and timely decision making.
This role might be for you if…

  • You have proven knowledge of project methodology and its application
  • You can demonstrate significant and up to date technical knowledge and skills in project and programme management techniques, processes and controls
  • You have the ability to coordinate, track and control complex projects working with multiple interdependencies and stakeholders
  • You have experience of successfully managing projects delivering significant change
  • You have experience of developing and managing project progress and performance reporting, presenting information clearly and concisely
  • You are confident managing stakeholder relationships, helping negotiate solutions to complex problems
  • You have excellent communication skills, able to manage diverse project stakeholders in a variety of ways
  • If you have a background in the voluntary and community sector (VCS) within Wales, or that they have experience of working with VCS organisations this will be a distinct advantage as will an understanding of the role of VCS organisations during times of emergency, either within Wales or across the UK

(Please read the full Role Profile / Job Description and refer to the specific Project Brief for additional information, for more details about this vacancy including responsibilities and full person specification)
Closing date for applications is (23:59), Wednesday 1st of December 2021 with interviews anticipated to be held week commencing 6th of December 2021 (via Zoom)
We offer a wide range of staff benefits, including:

  • 36 days holiday (inclusive of bank holidays)
  • Option to buy an extra 5 days annual leave
  • Up to 6% contributory pension
  • Flexible working policy
  • Genuine investment in your development

A little bit more about us…
The British Red Cross help anyone, anywhere in the UK; get the support they need if crisis strikes. From hiring a wheelchair or dealing with loneliness, to adjusting to life in a new country – we’re there when you need us.
Our organisation was born out of a desire to bring help without discrimination. Impartiality and neutrality have been central values for the Red Cross since we started.
Diversity is something we celebrate and we want you to be able to bring your authentic self to the Red Cross. We want you to feel that you are in an inclusive environment, and a great position to help us spread the power of kindness.
In the British Red Cross we will not tolerate any form of misconduct, including sexual harassment, exploitation and abuse. We have a code of conduct in place and are committed to creating a culture of integrity in the organisation where misconduct is not tolerated, situations of abuse are quickly investigated and perpetrators are dealt with effectively.
If you are appointed to a role within BRC you will be subject to the organisation’s Code of Conduct, a copy of which you can find on our website.
The British Red Cross, incorporated by Royal Charter 1908, is a charity registered in England and Wales (220949) and Scotland (SC037738).
Follow us on Twitter @RedCrossJobsUK and on Linked in – British Red Cross, to hear about our latest job vacancies.
Connecting human kindness with human crisis
**Rheolwr Prosiect – Cydlynu’r Cynllun Cysylltu â Dioddefwyr
Lleoliad: Hyblyg yng Nghymru (gweithio hyblyg rhwng y cartref a’r swyddfa)
Math o Gontract: Contract cyfnod penodol / Secondiad tan 31 Mawrth 2022
Oriau’r wythnos: 35
Cyflog: £39,626 y flwyddyn (pro rata)
A ydych chi’n Rheolwr Prosiect profiadol, gyda chefndir yn y sector gwirfoddol a chymunedol yn ddelfrydol?
Am y cyfle hwn… **
Fel Rheolwr Prosiect byddwch yn arwain prosiectau a / neu ffrydiau gwaith mewn rhaglenni sydd o bwys strategol. Bydd y prosiectau’n cael eu cyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac i’r manylebau y cytunwyd arnynt – ac i gyflawni newid ar draws y sefydliad.
Byddwch yn gweithio ar brosiect penodol i adolygu’r gwaith o gydlynu’r sector gwirfoddol a chymunedol (VCS), gan gynnwys ei berthynas gyda’r sectorau statudol a phreifat, ar adegau o argyfwng. Bydd y prosiect yn ystyried strwythurau presennol yng Nghymru a ledled y DU, er mwyn datblygu fframwaith ar gyfer y dyfodol sy’n golygu bod modd cydlynu’r VCS yn well wrth ymateb i argyfwng. Ceir amlinelliad llawnach o nodau’r prosiect yn nogfen Briff y Prosiect
Yn y swydd hon bydd disgwyl ichi weithredu ar bob lefel ar draws y sefydliad. Byddwch yn dod yn arbenigwyr pwnc yn y meysydd y byddwch yn gweithio ynddynt a hynny’n gyflym, a bydd disgwyl ichi reoli’r berthynas ag uwch reolwyr (ar lefel Pennaeth a Chyfarwyddwr fel arfer, ond hyd at, ac yn cynnwys, y Cyfarwyddwr Gweithredol).
Bydd gofyn ichi sicrhau bod prosiectau/ffrydiau gwaith yn cael eu cyflawni’n unol â disgwyliadau o ran amser, ansawdd a chost a bod adnoddau, templedi ac adroddiadau’r prosiect yn cael eu cynhyrchu’n brydlon, heb wallau, ac er mwyn gallu gwneud penderfyniadau effeithiol ac amserol.
Gallai’r rôl hon fod yn un i chi …

  • Os oes gennych wybodaeth amlwg o fethodoleg prosiect a’i ddefnydd
  • Os ydych yn gallu dangos gwybodaeth a sgiliau technegol sylweddol a chyfoes o ran technegau, prosesau a rheolyddion rheoli prosiectau a rhaglenni
  • Os ydych yn gallu cydlynu, tracio a rheoli prosiectau cymhleth gan weithio gyda nifer o ryngddibyniaethau a rhanddeiliaid
  • Os oes gennych brofiad o reoli prosiectau sy’n darparu newid arwyddocaol a hynny’n llwyddiannus.
  • Os oes gennych brofiad o ddatblygu a rheoli adroddiadau perfformiad a chynnydd prosiectau, gan gyflwyno’r wybodaeth yn glir ac yn gryno.
  • Os ydych yn hyderus yn rheoli’r berthynas â rhanddeiliaid, gan helpu i negodi atebion i broblemau cymhleth.
  • Os oes gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’ch bod yn gallu rheoli rhanddeiliaid prosiect amrywiol mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Os oes gennych gefndir yn y sector gwirfoddol a chymunedol (VCS) yng Nghymru, neu os oes gennych brofiad o weithio gyda mudiadau VCS, bydd hyn yn fantais benodol yn ogystal â dealltwriaeth o rôl mudiadau VCS yn ystod cyfnodau o argyfwng, naill ai yng Nghymru neu ledled y DU

(Darllenwch y Proffil Rôl / Disgrifiad Swydd llawn a chyfeirio at y Briff Prosiect penodol i gael rhagor o wybodaeth, i gael rhagor o fanylion am y swydd wag hon gan gynnwys cyfrifoldebau a manyleb person llawn)
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 23:59, Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2021. Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 6ed Rhagfyr
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff, gan gynnwys:

  • 36 diwrnod o wyliau (gan gynnwys Gwyliau Banc) – pro rata ar gyfer swyddi tymor penodol
  • Y dewis i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol
  • Hyd at 6% o bensiwn cyfrannol
  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • Buddsoddiad gwirioneddol yn eich hyfforddiant a’ch datblygiad personol

Gair amdanom ni…
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn helpu unrhyw un, unrhyw le yn y DU i gael y cymorth sydd ei angen arnynt os bydd argyfwng. O logi cadair olwyn, delio ag unigrwydd neu addasu i fywyd mewn gwlad newydd – byddwn yno pan fyddwch ein hangen. Gwraidd ein sefydliad oedd dyhead i roi cymorth heb wahaniaethu.
Mae didueddrwydd ac amhleidioldeb wedi bod yn werthoedd canolog i’r Groes Goch ers y cychwyn cyntaf. Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn chwilio am y bobl orau i’n helpu ni i ddarparu cymorth i filiynau o bobl yn y DU y mae argyfwng wedi effeithio arnynt. Rydym am i’n tîm adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan roi cyfleoedd cyfartal i bawb heb ystyried hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, oedran nac anabledd. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac rydym am i chi allu bod yn chi eich hun yn y gwaith, a theimlo eich bod mewn safle gwych i’n helpu ni i ledaenu pŵer caredigrwydd. Nid ydym yn goddef unrhyw fath o gamymddwyn, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, camfanteisio a cham-drin. Mae gennym god ymddygiad ar waith ac rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o uniondeb yn y sefydliad, lle nad yw camymddwyn yn cael ei oddef, lle rydym yn ymchwilio i sefyllfaoedd o gam-drin yn gyflym, a lle rydym yn delio â thramgwyddwyr yn effeithiol. Os byddwch yn cael eich penodi i rôl yn y Groes Goch Brydeinig, byddwch yn ddarostyngedig i God Ymddygiad y sefydliad. Mae copi ohono ar gael ar ein gwefan.
Fel rhan o’i phroses recriwtio a dethol, mae’r Groes Goch Brydeinig yn gofyn am archwiliad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ar gyfer pob unigolyn sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phlant ac oedolion agored i niwed neu sydd â mynediad atynt. Os yw gyrru’n un o ofynion hanfodol y rôl, bydd gwiriadau gyrrwr priodol yn cael eu gwneud yn unol â’r polisi cyfredol.
Mae’r Groe s Goch Brydeinig wedi’i hymgorffori gan Siarter Frenhinol 1908 ac yn elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (220949) a’r Alban (SC037738).
Dilynwch ni ar Twitter – @RedCrossJobsUK ac ar LinkedIn – British Red Cross, i glywed am ein swyddi gwag diweddaraf.
Cysylltu caredigrwydd dynol ag argyfyngau dynol

How to apply

https://www.aplitrak.com/?adid=bGluZHNleW1jYnJpZGUuMjI1ODguMzgzMEByZWRjcm9zc3VrLmFwbGl0cmFrLmNvbQ

Related NGO Jobs/UN Humanitarian Vacancies In Africa